CAW22 Unigolyn

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Organisation: Cymwysterau Cymru

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Ydw

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

CYMRAEG:

I.          Ein gwaith i gefnogi'r cwricwlwm newydd

Ers sefydlu Cymwysterau Cymru yn 2015, rydym wedi cynnal diddordeb mawr yng ngwaith Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith cwricwlwm newydd i Gymru. 

Rydym wedi cymryd y cwricwlwm newydd arfaethedig fel catalydd ar gyfer edrych ar sut y bydd angen i gymwysterau a gymerir gan bobl ifanc 14 i 16 oed newid i gefnogi dibenion a nodau Cwricwlwm newydd Cymru, ac addasu ac ymateb i anghenion y dyfodol.

Rydym am i bobl ifanc 16 oed sefyll cymwysterau ac iddynt barch byd-eang sy’n eu hysbrydoli a’u paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith. Golyga hyn y dylai ysgolion a darparwyr eraill sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus allu dewis o blith ystod o gymwysterau sy’n:

•          ennyn hyder y cyhoedd, gyda derbynioldeb yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang;

•          sicrhau dewis teg, cydlynol a dwyieithog i ganolfannau a dysgwyr;

•          gwneud y gorau o dechnoleg ddigidol; ac

•          y gellir eu darparu mewn ffordd reoledig a chynaliadwy.

Yng ngoleuni'r heriau a achosir gan bandemig Covid-19, mae'r gwaith hwn yn cynnig cyfle pwysig i:

•          Edrych ar ymagweddau a dulliau asesu amgen;

•          Ystyried yr effaith bosibl y gall cymwysterau ei chael ar les ac iechyd meddwl dysgwyr;

•          Ac i ysgogi arloesedd a gwydnwch yn y system gymwysterau, er enghraifft drwy ddefnyddio technoleg ddigidol yn fwy effeithiol ac eang.

Rydym wedi ymrwymo i weithio ar y cyd ac mewn modd tryloyw fel y gall pawb ddweud eu dweud ar gymwysterau’r dyfodol ac i helpu ysgolion ac eraill i gynllunio a gweithredu eu cwricwla'n effeithiol.

Ym mis Mehefin eleni, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cadarnhawyd ein dull lefel uchel o lunio cymwysterau’r dyfodol ar gyfer pobl ifanc 16 oed yng Nghymru . Fe wnaethom  hefyd gyhoeddi cyngor i'r Gweinidog Addysg ar ein dull arfaethedig . Mae ein cyngor yn defnyddio'r adborth i'n hymgynghoriad ac yn ystyried yr heriau, y cyfleoedd, y dibyniaethau a'r tybiaethau allweddol rydym yn disgwyl eu gweld. I gael trafodaeth fanylach ar ein barn ar ddatblygu cymwysterau i gefnogi'r cwricwlwm newydd, awgrymwn y gallai aelodau'r pwyllgor ddymuno cyfeirio at ein cyngor cyhoeddedig yn llawn (https://www.qualificationswales.org/media/6024/cyngor-ir-gweinidog-addysg.pdf).

Mae dadansoddiad llawn o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, crynodeb o'r canfyddiadau ac adroddiad ar ganlyniadau'r ymgynghoriad sy’n addas i bobl ifanc hefyd ar gael ar ein gwefan (https://www.qualificationswales.org/cymraeg/cymwys-ar-gyfer-y-dyfodol/cam-1---llunio-ein-dull/).

Rydym bellach yn paratoi ar gyfer cylch pellach o ymgynghoriadau a fydd yn canolbwyntio ar:

•          Y prif gymwysterau a ddylai fod yn rhan o'r cynnig yn y dyfodol i bobl ifanc 16 oed.

•          Sut olwg ddylai fod ar TGAU yn y dyfodol a'r meysydd pwnc y gellir eu cynnig.

•          A’r cymwysterau sydd eu hangen i gefnogi'r continwwm sengl ar gyfer dysgu’r Gymraeg.

II.         Y cwricwlwm newydd a chymwysterau

O ystyried ein rôl fel rheoleiddiwr cymwysterau, mae gennym ddiddordeb penodol yn narpariaethau'r Bil sy'n ymwneud â disgwyliadau'r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed. Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod yn llawn fod y cwricwlwm newydd yn seiliedig ar gysyniad o un continwwm o ddilyniant o 3 – 16. Drwy ein gwaith byddwn yn ystyried sut y gall yr ystod gyffredinol o gymwysterau sydd ar gael gefnogi pob dysgwr, pa bwynt dilyniant bynnag y maent wedi'i gyrraedd ac yn anelu ato.

Mae Cwricwlwm arfaethedig Cymru yn nodi'n glir y wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sylfaenol y dylai dysgwyr eu hennill o ddilyn cwricwlwm eang a chytbwys o 3 i 16 oed. Disgrifir y disgwyliadau hyn drwy:

•          bedwar diben

•          chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh)

•          tri sgìl trawsgwricwlaidd

•          pedair elfen orfodol y cwricwlwm (Cymraeg, Saesneg, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ac addysg cydberthynas a rhywioldeb)

•          pedwar sgìl annatod

•          a saith datganiad ar hugain o'r hyn sy'n bwysig.

Nid yw'r Bil yn gosod disgwyliadau ar gyfer y rôl y dylai cymwysterau ei chwarae mewn perthynas â'r cwricwlwm. Rydym yn cytuno â’r dull hwn. Nid ydym eto wedi penderfynu pa gymwysterau ddylai fod ar gael i'r dysgwyr cyntaf i gael eu haddysgu o dan fframwaith y cwricwlwm newydd. Nid ydym ychwaith wedi cytuno sut y dylid cynllunio ac asesu cymwysterau’r dyfodol. Mae'r rhain yn gwestiynau y byddwn yn eu harchwilio mewn ymgynghoriadau i ddod.

O fewn y paramedrau a bennir gan y fframwaith, disgwylir i benaethiaid gynllunio cwricwlwm lleol eang a chytbwys ar gyfer eu hysgol sy'n darparu ar gyfer dilyniant priodol i ddysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau. Mewn ysgolion uwchradd, rhaid i'r cwricwlwm hefyd gynnig dewis o addysgu a dysgu i ddysgwyr ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 11 ym mhob MDPh, tra'n sicrhau eu bod yn parhau i ymgymryd â rhywfaint o ddysgu ym mhob MDPh.

Mae fframwaith y cwricwlwm newydd yn ymwneud â llawer mwy na chymwysterau ac mae'n cwmpasu'r holl ddysgu a phrofiadau a fydd yn helpu dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Fodd bynnag, bydd yr ystod o gymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc 16 oed, y ffordd y cânt eu hasesu (yn ogystal â sut y defnyddir eu deilliannau i werthuso perfformiad ysgolion) o reidrwydd yn cael effaith bwysig ar yr addysgu a'r dysgu sy'n digwydd mewn ysgolion uwchradd. Ein safbwynt ni yw y dylai cymwysterau gefnogi'r cwricwlwm, nid fel arall.

Cyn belled ag sy'n bosibl, rydym am i'r cymwysterau sydd ar gael roi'r hyblygrwydd sydd ei angen ar ysgolion uwchradd i gynllunio cwricwla lleol sy'n iawn i'w dysgwyr.

Bydd angen i gymwysterau barhau i esblygu ac addasu i helpu i gefnogi ysgolion i wneud hyn. Pe bai'r Bil yn disgrifio neu'n rhagnodi'r berthynas rhwng cymwysterau a'r cwricwlwm, byddai hyn yn debygol o gyfyngu ar yr hyblygrwydd y gallai'r ystod o gymwysterau yn y dyfodol ei gynnig i ysgolion ddatblygu eu cwricwla eu hunain.

III.        Gwerthuso a gwella ysgolion

Mae’r memorandwm esboniadol i'r Bil yn nodi bod yr adolygiad Dyfodol Llwyddiannus wedi canfod bod

"... lefel uchel o ragnodi yn y cwricwlwm presennol wedi tueddu i greu diwylliant lle y mae llai o le i greadigrwydd. Mae dysgu ac addysgu wedi mynd yn fwyfwy cul, ac nid yw cyfraniad proffesiynol y gweithlu wedi’i ddatblygu’n ddigonol."

Yn ein profiad ni, mae'r broses o gulhau'r cwricwlwm a addysgir mewn ysgolion yn cael ei gymhlethu gan oruchafiaeth canlyniadau cymwysterau mewn trefniadau atebolrwydd ysgolion. Croesawn y gwaith a ddechreuwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd  a fydd yn cefnogi gweithredu fframwaith y cwricwlwm newydd. Rydym yn cefnogi'n arbennig y bwriad i ddatblygu dull sy'n gofyn am ystyried amrywiaeth ehangach o ffactorau a thystiolaeth wrth werthuso perfformiad ysgolion a phennu blaenoriaethau ar gyfer gwella.

Rydym hefyd yn cefnogi'r cynnig yn y Bil i Weinidogion Cymru allu pennu gofynion cwricwlwm pellach ar gyfer yr ystod oedran 14-16 drwy wneud darpariaeth sy'n ymwneud â chyrsiau astudio.  Yn hanesyddol, defnyddiwyd atebolrwydd ysgolion a mesurau perfformiad i ddylanwadu ar benderfyniad ysgolion am y cymwysterau y maent yn eu cynnig; dull sydd yn aml wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol. Mae'n ymddangos i ni fod rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau uniongyrchol ynghylch y cyrsiau astudio y mae ysgolion yn eu cynnig yn ffordd fwy tryloyw o osod a gweithredu disgwyliadau polisi mewn perthynas â'r cymwysterau a gynigir i ddysgwyr ac a gymerir ganddynt.

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

- CYMRAEG:

Rydym wedi gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i helpu i fesur ein costau sy'n gysylltiedig ag adolygu a diwygio cymwysterau er mwyn sicrhau eu bod yn cefnogi'r cwricwlwm newydd.

Yn ogystal â'r costau a nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, mae'n debygol y bydd costau pellach yn deillio o'r gwaith sydd ei angen i ddatblygu cymwysterau newydd i fodloni ein gofynion diweddaraf. Bydd y costau dan sylw yn amrywio yn dibynnu ar natur a graddfa'r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau y gall cymwysterau gefnogi'r cwricwlwm newydd a diwallu anghenion dysgwyr yn y dyfodol.

Yn dibynnu ar faint y newidiadau sydd eu hangen, gallai fod angen sicrhau bod arian grant ychwanegol ar gael i gyrff dyfarnu er mwyn helpu i sicrhau bod ystod ddigon eang o gymwysterau dwyieithog ar gael i ddiwallu anghenion pob dysgwr.

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

-

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

-